{"id":491,"date":"2022-08-17T17:51:56","date_gmt":"2022-08-17T17:51:56","guid":{"rendered":"http:\/\/thecprsong.co.uk\/?page_id=491"},"modified":"2022-08-17T17:51:56","modified_gmt":"2022-08-17T17:51:56","slug":"datganiad-preifatrwydd-awyr-las","status":"publish","type":"page","link":"https:\/\/thecprsong.co.uk\/index.php\/cy\/datganiad-preifatrwydd-awyr-las\/","title":{"rendered":"Datganiad Preifatrwydd Awyr Las"},"content":{"rendered":"\n<div style=\"height:50px\" aria-hidden=\"true\" class=\"wp-block-spacer\"><\/div>\n\n\n\n<div class=\"wp-container-1 wp-block-group\"><div class=\"wp-block-group__inner-container\">\n<p><strong>Mae eich Elusen GIG, Awyr Las, yn ymroddedig i ddiogelu eich preifatrwydd.&nbsp;<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p>Mae aelodau Pwyllgor Elusen Awyr Las sy\u2019n llywodraethu\u2019r Elusen, Cynghorwyr y Gronfa sy\u2019n arolygu\u2019r cronfeydd unigol, aelodau T\u00eem Cymorth Awyr Las sy\u2019n cynnig cyngor a chefnogaeth i gefnogwyr yr elusen a\u2019r gwirfoddolwyr sy\u2019n helpu i sicrhau bod yr elusen yn cyflawni ei dyletswyddau, i gyd yn ymroddedig i ddiogelu eich preifatrwydd.<\/p>\n\n\n\n<p><strong>Mae\u2019r datganiad hwn yn esbonio\u2019r ffordd y byddwn yn delio \u00e2\u2019r wybodaeth bersonol y byddwch chi\u2019n ei rhoi i\u2019r Elusen a\u2019r hyn y byddwn yn ei ddysgu amdanoch chi oddi wrth eich ymweliad \u00e2\u2019n gwefan.&nbsp; Efallai hefyd yr hoffech weld ein&nbsp;<\/strong><strong><a href=\"https:\/\/awyrlas.org.uk\/cy\/the-awyr-las-fundraising-promise\">haddewid codi arian<\/a><\/strong><strong>&nbsp;sy\u2019n cyd-fynd ag o.<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p>Drwy ddefnyddio\u2019r safle hwn, rydych yn cytuno i delerau\u2019r datganiad preifatrwydd hwn.<\/p>\n\n\n\n<p><strong>1. Golwg gyffredinol ar ddiogelu data<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p>Rydyn ni\u2019n ymwybodol o\u2019n cyfrifoldebau dan Reoliad Diogelu Data Cyffredinol 2018 a byddwn yn&nbsp; ymdrechu i sicrhau y bydd&nbsp; y wybodaeth bersonol y byddwn yn ei chael yn cael ei dal, ei defnyddio a\u2019i phrosesu fel arall yn unol \u00e2\u2019r rheoliad hwn a phob cyfraith a rheoliad diogelu data cymwys arall.&nbsp; Mae\u2019r Elusen yn cydymffurfio \u00e2 pholisi diogelu data Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr sydd ar gael ar gais.<\/p>\n\n\n\n<p><strong>2. Eich data chi ac Awyr Las<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p><strong>Pa wybodaeth bersonol fyddwn ni\u2019n ei chasglu?<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p>Gwybodaeth bersonol yw gwybodaeth y gellir ei defnyddio i\u2019ch adnabod chi.&nbsp; Gall gynnwys eich enw, dyddiad geni, cyfeiriad e-bost, cyfeiriad post, rhif ff\u00f4n, rhif ffacs a manylion cerdyn credyd\/debyd.&nbsp; Byddwn yn casglu gwybodaeth bersonol pan fyddwch yn rhoi arian, yn ymgymryd \u00e2 gweithgareddau codi arian, yn holi am ein gweithgareddau, yn cofrestru ar ein gwefan, yn archebu cynhyrchion a gwasanaethau (er enghraifft cyhoeddiadau, defnyddiau codi arian a thaflenni newyddion e-bost), neu fel arall yn rhoi gwybodaeth bersonol i ni ar-lein, ar ffurf papur neu electronig, ar y ff\u00f4n neu wyneb-yn-wyneb.&nbsp; Byddwn yn casglu manylion eich cerdyn credyd\/debyd dim ond os byddwch yn ein darparu \u00e2 nhw i roi rhodd. Fe olygir manylion y cerdyn unwaith y bydd y rhodd wedi\u2019i brosesu.&nbsp; Byddwn yn casglu manylion cyfrif banc dim ond os byddwch yn sefydlu taliad debyd uniongyrchol ar gyfer rhoddion rheolaidd i ni.&nbsp; Bydd y manylion hyn yn cael eu dal yn ddiogel.<\/p>\n\n\n\n<p>Drwy roi eich manylion personol i ni rydych yn cytuno y gallid prosesu\u2019r holl ddata personol y byddwch yn ei gyflwyno yn y dull ac i\u2019r dibenion a ddisgrifir isod.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae arnon ni eisiau\u2019n wirioneddol rhoi\u2019r gefnogaeth orau i chi, felly fe allem ddadansoddi eich gwybodaeth bersonol i greu proffil o\u2019ch diddordebau a\u2019ch hoffterau fel y gallwn gysylltu \u00e2 chi \u00e2 gwybodaeth sy\u2019n berthnasol i chi. Byddwn yn defnyddio gwybodaeth ychwanegol amdanoch chi, yn cynnwys gwybodaeth geo-ddemograffig a mesurau o oludlonedd (affluence), pan fydd ar gael gan ffynonellau allanol i\u2019n helpu i wneud hyn yn effeithiol. Yr unig amser y gwneir hyn o gwbl fydd yn unol \u00e2\u2019r Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol 2018. Byddem yn gwneud hyn oherwydd ei fod yn ein helpu i ddeall cefndir y bobl sy\u2019n cefnogi Awyr Las ac mae\u2019n ein helpu i wneud ceisiadau priodol i gefnogwyr a allai ein helpu ac sy\u2019n fodlon rhoi mwy nag y maen nhw\u2019n barod.&nbsp; Gallem hefyd ddefnyddio eich gwybodaeth bersonol i ganfod ac i leihau twyll a risg credyd.<\/p>\n\n\n\n<p><strong>Pam a sut fyddwn ni\u2019n defnyddio eich gwybodaeth chi ac yn ei gadw\u2019n ddiogel?<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p>Fyddwn ni ddim ac ni wnawn ni fyth werthu neu gyfnewid eich data.<\/p>\n\n\n\n<p>Fe wnawn ddefnyddio eich gwybodaeth bersonol i\u2019ch darparu \u00e2\u2019r gwasanaethau, cynhyrchion neu wybodaeth y gofynnoch chi amdanyn nhw, i ddibenion gweinyddu ac i hyrwyddo nodau elusennol Awyr Las, yn cynnwys ar gyfer gweithgareddau codi arian. Mae\u2019n bosib y bydd arnon ni angen rhannu eich gwybodaeth \u00e2\u2019n darparwyr gwasanaeth fel cwmn\u00efau postio sy\u2019n prosesu ein hapeliadau.&nbsp; Mae gennym drefniadau diogelu data caeth wedi\u2019u sefydlu \u00e2\u2019r sefydliadau cyflawni hyn.<\/p>\n\n\n\n<p>Bydd unrhyw wybodaeth y byddwn yn ei chasglu\u2019n cael ei storio a\u2019i phrosesu yn y DU a byddwn yn sicrhau y bydd yr holl sefydliadau partner a ddefnyddiwn ni i brosesu data, er enghraifft \u2018Pennies from Heaven\u2019, \u2018Just Giving\u2019, \u2018Mail Chimp\u2019 a \u2018Facebook\u2019 i gyd yn ymroddedig i gydymffurfio \u00e2 GDPR.<\/p>\n\n\n\n<p>Byddwn yn cadw\u2019r hawl i rannu eich gwybodaeth bersonol os ydyn ni\u2019n gyfreithiol rwymedig i wneud hynny ac i\u2019n galluogi i gymhwyso ein telerau ac amodau a chytundebau eraill.&nbsp; Mae hyn yn cynnwys cyfnewid gwybodaeth \u00e2 sefydliadau eraill er mwyn lleihau\u2019r risg o dwyll a chredyd ac ar gyfer ymchwiliadau\u2019r heddlu.<\/p>\n\n\n\n<p>Fe wnawn sicrhau fod yna reoliadau technegol priodol wedi\u2019u sefydlu i ddiogelu eich manylion personol a bod ein rhwydwaith wedi\u2019i diogelu a\u2019i monitro fel mater o drefn.<\/p>\n\n\n\n<p><strong>Y ffordd y byddwn yn casglu gwybodaeth amdanoch chi<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p>Byddwn yn casglu gwybodaeth amdanoch chi yn y ffyrdd canlynol:<\/p>\n\n\n\n<p><strong>Pan fyddwch yn ei rhoi i ni\u2019n uniongyrchol<\/strong>&nbsp;\u2013 gallech roi eich gwybodaeth i ni pan fyddwch yn cofrestru ar gyfer un o\u2019n digwyddiadau, yn dweud eich stori wrthon ni, yn gwneud cyfraniad neu\u2019n cyfathrebu \u00e2 ni.&nbsp; Weithiau, pan fyddwch yn ein cefnogi, bydd eich gwybodaeth yn cael ei phrosesu gan sefydliad sy\u2019n gweithio i ni (fel cwmni postio), ond rydyn ni\u2019n gyfrifol am eich data bob amser.<\/p>\n\n\n\n<p><strong>Pan fyddwch yn ei roi i ni\u2019n anuniongyrchol<\/strong>&nbsp;&#8211; gellid rhannu eich gwybodaeth \u00e2 ni gan sefydliadau digwyddiadau annibynnol, er enghraifft Marathon Llundain neu safleoedd codi arian fel Just Giving. Bydd y trydydd parti annibynnol yn gwneud hynny dim ond pan fyddwch wedi dynodi eich bod yn dymuno cefnogi Awyr Las a chydag eich cydsyniad. Dylech archwilio eu polis\u00efau preifatrwydd pan fyddwch yn darparu eich gwybodaeth i ddeall sut fyddan nhw\u2019n prosesu eich data.<\/p>\n\n\n\n<p><strong>Pan fyddwch yn rhoi caniat\u00e2d i sefydliadau eraill ei rhannu<\/strong>&nbsp;\u2013 yn dibynnu ar eich gosodiad neu\u2019r polis\u00efau preifatrwydd ar gyfer cyfryngau cymdeithasol ac apps negeseuon fel Facebook a Twitter, fe allech roi caniat\u00e2d i ni gael mynediad at wybodaeth o\u2019r cyfrifon neu\u2019r gwasanaethau hynny.&nbsp; Gallech hefyd ddarparu caniat\u00e2d i sefydliadau trydydd parti rannu eich data \u00e2 ni.<\/p>\n\n\n\n<p>Byddwn yn cyfuno gwybodaeth o\u2019r ffynonellau hyn \u00e2 honno y byddwch chi\u2019n ei darparu i ni\u2019n uniongyrchol.&nbsp; Byddwn hefyd yn defnyddio\u2019r wybodaeth hon i gael gwell dealltwriaeth o\u2019n cefnogwyr er mwy gwella ein dulliau codi aria, ein cynhyrchion a\u2019n gwasanaethau.<\/p>\n\n\n\n<p><strong>Cywirdeb eich data a\u2019i gadw\u2019n gyfamserol<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p>Gofynnwn i chi roi gwybod i ni, os gwelwch yn dda, pan fyddwch yn symud t\u0177 neu\u2019n newid eich manylion cyswllt, yna fe allwn gadw ein cofnodion yn gyfamserol.&nbsp; Os bydd post (yn y post neu\u2019n electronig) sydd wedi\u2019i gyfeirio atoch chi\u2019n cael ei ddychwelyd atom ni\u2019n dweud eich bod \u2018wedi symud\u2019 (neu rywbeth tebyg) yna fe allem ddefnyddio ffynonellau sydd ar gael yn gyhoeddus, fel cronfa ddata Newid Cyfeiriad y Swyddfa Bost, i ail-wirio a diweddaru eich manylion.<\/p>\n\n\n\n<p>Tra byddwn yn ymdrechu i sicrhau bod y wybodaeth y byddwn yn ei dal amdanoch chi\u2019n fanwl gywir a, lle bo\u2019r angen, yn cael ei chadw\u2019n ddiweddar, fe wnawn dybio, yn absenoldeb tystiolaeth i\u2019r gwrthwyneb, bod y wybodaeth y byddwch yn ein darparu \u00e2 hi, yn fanwl gywir.&nbsp; Pe byddai yna unrhyw anghywirdeb yn y wybodaeth y byddwch yn ein hysbysu ohoni, neu y byddwn yn dod yn ymwybodol ohoni, fe gaiff ei chywiro gennym ni\u2019n ddiymdroi.<\/p>\n\n\n\n<p><strong>Marchnata uniongyrchol<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p>Fe wnawn gysylltu \u00e2 chi, o bryd i\u2019w gilydd, i\u2019ch cadw\u2019n ddiweddar \u00e2 newyddion, apeliadau, digwyddiadau, cyfleoedd gwirfoddoli Awyr Las a\u2019r GIG a\u2019r ffordd y bydd cefnogwyr fel chi\u2019n gloywi bywydau ac yn helpu i newid bywydau cleifion.&nbsp; Fe\u2019ch gwahoddwn i ddweud wrthon ni sut yr hoffech i ni gyfathrebu, mewn ffyrdd sy\u2019n eich siwtio chi.&nbsp; Fe wnawn hefyd gynnwys gwybodaeth ar y ffordd i optio allan o farchnata yn y dyfodol.&nbsp; Os nad ydych am glywed gennym ni, yna rydyn ni\u2019n deall.&nbsp; Cysylltwch \u00e2 ni yn awyrlas@wales.nhs.uk neu ffoniwch 01248 384395.<\/p>\n\n\n\n<p>Os byddwn yn cynnal digwyddiad mewn partneriaeth \u00e2 sefydliadau eraill a enwir yna mae\u2019n bosib y byddai angen rhannu eich manylion.&nbsp; Fe fyddwn yn glir iawn yngl\u0177n \u00e2\u2019r hyn fydd yn digwydd i\u2019ch data pan fyddwch yn cofrestru.<\/p>\n\n\n\n<p><strong>Data cleifion<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p>Nid oes gennym ni hawl i weld data cleifion.<\/p>\n\n\n\n<p>Gallai Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) gysylltu \u00e2 \u2018chleifion y gorffennol\u2019 ar ein rhan, gan ofyn a hoffan nhw glywed mwy gan ein Helusen GIG, Awyr Las. Ni fyddwn ar unrhyw adeg yn gweld data cleifion.&nbsp; Byddem yn cysylltu \u00e2 chleifion yn uniongyrchol dim ond os byddan nhw\u2019n \u2018optio i mewn\u2019 o\u2019r post hwn.&nbsp; Ni fyddid yn dargyfeirio cronfeydd o ofal cleifion ar gyfer hynny.<\/p>\n\n\n\n<p><strong>Data plant<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p>Os ydych chi\u2019n 16 oed neu\u2019n iau, mynnwch ganiat\u00e2d eich rhiant\/gwarcheidwad cyn rhoi eich manylion personol i ni.<\/p>\n\n\n\n<p><strong>3. Data digidol<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p><strong>Gwefan<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p>Os gwnewch chi ddim ar wah\u00e2n i ddarllen tudalennau neu lawrlwytho gwybodaeth wrth ddefnyddio\u2019r wefan hon, fe wnawn ni gipio a storio gwybodaeth yngl\u0177n \u00e2\u2019ch ymweliad.&nbsp; Ni fyddwn yn gallu eich adnabod chi oddi wrth hyn; mae\u2019n ymwneud ag (i) parth y Rhyngrwyd a chyfeiriad IP y byddwch yn cael mynediad at y wefan ohono (ii) y math o borwr a system weithredu rydych chi\u2019n eu defnyddio (iii) dyddiad ac amser eich ymweliad, (iv) y tudalennau y byddwch yn ymweld \u00e2 nhw, a (v) cyfeiriad y wefan y gwnaethoch chi gysylltu \u00e2 ni ohoni (os yn gymwys).<\/p>\n\n\n\n<p>Byddwn yn casglu\u2019r wybodaeth ddienw hon i wneud pob ymweliad yn fwy gwerth chwil, ac i\u2019n darparu \u00e2 gwybodaeth i helpu i wella ein gwasanaeth.<\/p>\n\n\n\n<p><strong>Y ffordd y byddwn yn defnyddio \u2018cwcis\u2019<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p>Fel y rhan fwyaf o wefannau, byddwn yn defnyddio \u2018cwcis\u2019 i helpu i wneud ein safle, a\u2019r ffordd y byddwn yn ei ddefnyddio, yn well.&nbsp; Golyga cwcis y bydd gwefan yn eich cofio chi.&nbsp; Ffeiliau testun bychan ydyn nhw a bydd safleoedd yn eu trosglwyddo i\u2019ch cyfrifiadur (neu ff\u00f4n neu dabled). Maen nhw\u2019n gwneud rhyngweithio \u00e2 gwefan yn gyflymach ac yn haws.&nbsp; Byddwn hefyd yn casglu\u2019r wybodaeth hon fel y gallwn weld pa fath o ddyfais a system weithredu rydych yn eu defnyddio i gael mynediad at ein gwefan.&nbsp; Bydd hyn yn ein helpu i optimeiddio eich gwefan ar gyfer y dyfeisiadau a ddefnyddir amlaf.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae cwcis a gesglir yn cynnwys:<\/p>\n\n\n\n<p><strong>Diogelu eich cyfrineiriau<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p>Lle byddwn ni wedi rhoi (neu chi wedi dewis) cyfrinair sy\u2019n eich galluogi i gael mynediad at rannau arbennig o\u2019n safle, rydych chi\u2019n gyfrifol am gadw\u2019r cyfrinair yn gyfrinachol.&nbsp; Rydych yn cytuno i beidio \u00e2 rhannu\u2019r cyfrinair hwnnw ag unrhyw un arall.<\/p>\n\n\n\n<p><strong>Gwefannau eraill<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p>Mae gwefan Awyr Las yn cynnwys dolenni i wefannau eraill sy\u2019n perthyn i drydydd parti, ac nid oes gennym ni unrhyw gyfrifoldeb amdanyn nhw. Dydyn ni ddim yn rheoli arferion preifatrwydd y safleoedd eraill hyn.&nbsp; Dylech felly ofalu, pan fyddwch yn gadael ein safle, eich bod wedi darllen polisi preifatrwydd y safle.<\/p>\n\n\n\n<p><strong>Telerau defnyddio e-byst<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p>Fydd e-byst ddim yn ddiogel bob amser felly cofiwch hynny pan fyddwch yn cysylltu.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae\u2019r wybodaeth mewn e-byst yn gyfrinachol, felly os ydych wedi derbyn un drwy gamgymeriad, dil\u00ebwch o heb gop\u00efo, defnyddio na dweud wrth neb am ei gynnwys.<\/p>\n\n\n\n<p><strong>Rhoddion testun<\/strong><\/p>\n\n\n\n<ul><li>Darllenwch delerau ac amodau ein rhoddion testun.<\/li><\/ul>\n\n\n\n<p><strong>4. Yngl\u0177n \u00e2\u2019r datganiad preifatrwydd hwn<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p>Gallem addasu, ychwanegu neu ddileu adrannau o\u2019r datganiad preifatrwydd hwn o bryd i\u2019w gilydd.&nbsp; Gwiriwch y dudalen hon o bob yn hyn a hyn i ddal i fod yn ddiweddar o ran Datganiad Preifatrwydd Awyr Las.<\/p>\n\n\n\n<p><strong>Optio allan o gyfathrebiadau Awyr Las<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p>Os nad ydych am dderbyn cyfathrebiadau yn y dyfodol gan eich Elusen GIG, Awyr Las, cysylltwch \u00e2 ni:<\/p>\n\n\n\n<p>T\u00eem Cymorth Awyr Las<\/p>\n\n\n\n<p>Ysbyty Gwynedd, Penrhosgarnedd, Bangor, LL57 2PW<\/p>\n\n\n\n<p>E-bost: awyrlas@wales.nhs.uk<\/p>\n\n\n\n<p>Ff\u00f4n: 01248 384395<\/p>\n\n\n\n<p><strong>Hawliau mynediad<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p>Mae gennych hawl i gael mynediad at y data personol rydyn ni\u2019n ei ddal amdanoch chi.&nbsp; Os hoffech gael copi o\u2019r wybodaeth hon, ysgrifennwch atom ni neu e-bostiwch ni yn y cyfeiriadau a roddir isod, gan amg\u00e1u eich manylion post:<\/p>\n\n\n\n<p>T\u00eem Cymorth Awyr Las<\/p>\n\n\n\n<p>Ysbyty Gwynedd, Penrhosgarnedd, Bangor, LL57 2PW<\/p>\n\n\n\n<p>E-bost: awyrlas@wales.nhs.uk<\/p>\n\n\n\n<p>Ff\u00f4n: 01248 384395<\/p>\n\n\n\n<p><strong>Ymholiadau preifatrwydd<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p>Os bydd gennych unrhyw gwestiynau yngl\u0177n \u00e2\u2019r datganiad hwn, neu os byddwch yn dymuno diweddaru eich manylion neu ddileu eich data personol oddi ar ein cofnodion, cysylltwch \u00e2 ni yn y cyfeiriad uchod neu gallwch gysylltu \u00e2 Swyddfa\u2019r Comisiynydd Gwybodaeth ar&nbsp;<a href=\"https:\/\/ico.org.uk\/\"><\/a><a href=\"https:\/\/ico.org.uk\/\">https:\/\/ico.org.uk\/<\/a><\/p>\n<\/div><\/div>\n\n\n\n<div style=\"height:100px\" aria-hidden=\"true\" class=\"wp-block-spacer\"><\/div>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Mae eich Elusen GIG, Awyr Las, yn ymroddedig i ddiogelu eich preifatrwydd.&nbsp; Mae aelodau Pwyllgor Elusen Awyr Las sy\u2019n llywodraethu\u2019r Elusen, Cynghorwyr y Gronfa sy\u2019n arolygu\u2019r cronfeydd unigol, aelodau T\u00eem Cymorth Awyr Las sy\u2019n cynnig cyngor a chefnogaeth i gefnogwyr yr elusen a\u2019r gwirfoddolwyr sy\u2019n helpu i sicrhau bod yr elusen yn cyflawni ei dyletswyddau, [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":0,"parent":0,"menu_order":0,"comment_status":"closed","ping_status":"open","template":"","meta":{"_monsterinsights_skip_tracking":false,"_monsterinsights_sitenote_active":false,"_monsterinsights_sitenote_note":"","_monsterinsights_sitenote_category":0},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/thecprsong.co.uk\/index.php\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/491"}],"collection":[{"href":"https:\/\/thecprsong.co.uk\/index.php\/wp-json\/wp\/v2\/pages"}],"about":[{"href":"https:\/\/thecprsong.co.uk\/index.php\/wp-json\/wp\/v2\/types\/page"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/thecprsong.co.uk\/index.php\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/thecprsong.co.uk\/index.php\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=491"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/thecprsong.co.uk\/index.php\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/491\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":492,"href":"https:\/\/thecprsong.co.uk\/index.php\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/491\/revisions\/492"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/thecprsong.co.uk\/index.php\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=491"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}