Mae eich Elusen GIG, Awyr Las, yn ymroddedig i ddiogelu eich preifatrwydd.
Mae aelodau Pwyllgor Elusen Awyr Las sy’n llywodraethu’r Elusen, Cynghorwyr y Gronfa sy’n arolygu’r cronfeydd unigol, aelodau Tîm Cymorth Awyr Las sy’n cynnig cyngor a chefnogaeth i gefnogwyr yr elusen a’r gwirfoddolwyr sy’n helpu i sicrhau bod yr elusen yn cyflawni ei dyletswyddau, i gyd yn ymroddedig i ddiogelu eich preifatrwydd.
Mae’r datganiad hwn yn esbonio’r ffordd y byddwn yn delio â’r wybodaeth bersonol y byddwch chi’n ei rhoi i’r Elusen a’r hyn y byddwn yn ei ddysgu amdanoch chi oddi wrth eich ymweliad â’n gwefan. Efallai hefyd yr hoffech weld ein haddewid codi arian sy’n cyd-fynd ag o.
Drwy ddefnyddio’r safle hwn, rydych yn cytuno i delerau’r datganiad preifatrwydd hwn.
1. Golwg gyffredinol ar ddiogelu data
Rydyn ni’n ymwybodol o’n cyfrifoldebau dan Reoliad Diogelu Data Cyffredinol 2018 a byddwn yn ymdrechu i sicrhau y bydd y wybodaeth bersonol y byddwn yn ei chael yn cael ei dal, ei defnyddio a’i phrosesu fel arall yn unol â’r rheoliad hwn a phob cyfraith a rheoliad diogelu data cymwys arall. Mae’r Elusen yn cydymffurfio â pholisi diogelu data Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr sydd ar gael ar gais.
2. Eich data chi ac Awyr Las
Pa wybodaeth bersonol fyddwn ni’n ei chasglu?
Gwybodaeth bersonol yw gwybodaeth y gellir ei defnyddio i’ch adnabod chi. Gall gynnwys eich enw, dyddiad geni, cyfeiriad e-bost, cyfeiriad post, rhif ffôn, rhif ffacs a manylion cerdyn credyd/debyd. Byddwn yn casglu gwybodaeth bersonol pan fyddwch yn rhoi arian, yn ymgymryd â gweithgareddau codi arian, yn holi am ein gweithgareddau, yn cofrestru ar ein gwefan, yn archebu cynhyrchion a gwasanaethau (er enghraifft cyhoeddiadau, defnyddiau codi arian a thaflenni newyddion e-bost), neu fel arall yn rhoi gwybodaeth bersonol i ni ar-lein, ar ffurf papur neu electronig, ar y ffôn neu wyneb-yn-wyneb. Byddwn yn casglu manylion eich cerdyn credyd/debyd dim ond os byddwch yn ein darparu â nhw i roi rhodd. Fe olygir manylion y cerdyn unwaith y bydd y rhodd wedi’i brosesu. Byddwn yn casglu manylion cyfrif banc dim ond os byddwch yn sefydlu taliad debyd uniongyrchol ar gyfer rhoddion rheolaidd i ni. Bydd y manylion hyn yn cael eu dal yn ddiogel.
Drwy roi eich manylion personol i ni rydych yn cytuno y gallid prosesu’r holl ddata personol y byddwch yn ei gyflwyno yn y dull ac i’r dibenion a ddisgrifir isod.
Mae arnon ni eisiau’n wirioneddol rhoi’r gefnogaeth orau i chi, felly fe allem ddadansoddi eich gwybodaeth bersonol i greu proffil o’ch diddordebau a’ch hoffterau fel y gallwn gysylltu â chi â gwybodaeth sy’n berthnasol i chi. Byddwn yn defnyddio gwybodaeth ychwanegol amdanoch chi, yn cynnwys gwybodaeth geo-ddemograffig a mesurau o oludlonedd (affluence), pan fydd ar gael gan ffynonellau allanol i’n helpu i wneud hyn yn effeithiol. Yr unig amser y gwneir hyn o gwbl fydd yn unol â’r Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol 2018. Byddem yn gwneud hyn oherwydd ei fod yn ein helpu i ddeall cefndir y bobl sy’n cefnogi Awyr Las ac mae’n ein helpu i wneud ceisiadau priodol i gefnogwyr a allai ein helpu ac sy’n fodlon rhoi mwy nag y maen nhw’n barod. Gallem hefyd ddefnyddio eich gwybodaeth bersonol i ganfod ac i leihau twyll a risg credyd.
Pam a sut fyddwn ni’n defnyddio eich gwybodaeth chi ac yn ei gadw’n ddiogel?
Fyddwn ni ddim ac ni wnawn ni fyth werthu neu gyfnewid eich data.
Fe wnawn ddefnyddio eich gwybodaeth bersonol i’ch darparu â’r gwasanaethau, cynhyrchion neu wybodaeth y gofynnoch chi amdanyn nhw, i ddibenion gweinyddu ac i hyrwyddo nodau elusennol Awyr Las, yn cynnwys ar gyfer gweithgareddau codi arian. Mae’n bosib y bydd arnon ni angen rhannu eich gwybodaeth â’n darparwyr gwasanaeth fel cwmnïau postio sy’n prosesu ein hapeliadau. Mae gennym drefniadau diogelu data caeth wedi’u sefydlu â’r sefydliadau cyflawni hyn.
Bydd unrhyw wybodaeth y byddwn yn ei chasglu’n cael ei storio a’i phrosesu yn y DU a byddwn yn sicrhau y bydd yr holl sefydliadau partner a ddefnyddiwn ni i brosesu data, er enghraifft ‘Pennies from Heaven’, ‘Just Giving’, ‘Mail Chimp’ a ‘Facebook’ i gyd yn ymroddedig i gydymffurfio â GDPR.
Byddwn yn cadw’r hawl i rannu eich gwybodaeth bersonol os ydyn ni’n gyfreithiol rwymedig i wneud hynny ac i’n galluogi i gymhwyso ein telerau ac amodau a chytundebau eraill. Mae hyn yn cynnwys cyfnewid gwybodaeth â sefydliadau eraill er mwyn lleihau’r risg o dwyll a chredyd ac ar gyfer ymchwiliadau’r heddlu.
Fe wnawn sicrhau fod yna reoliadau technegol priodol wedi’u sefydlu i ddiogelu eich manylion personol a bod ein rhwydwaith wedi’i diogelu a’i monitro fel mater o drefn.
Y ffordd y byddwn yn casglu gwybodaeth amdanoch chi
Byddwn yn casglu gwybodaeth amdanoch chi yn y ffyrdd canlynol:
Pan fyddwch yn ei rhoi i ni’n uniongyrchol – gallech roi eich gwybodaeth i ni pan fyddwch yn cofrestru ar gyfer un o’n digwyddiadau, yn dweud eich stori wrthon ni, yn gwneud cyfraniad neu’n cyfathrebu â ni. Weithiau, pan fyddwch yn ein cefnogi, bydd eich gwybodaeth yn cael ei phrosesu gan sefydliad sy’n gweithio i ni (fel cwmni postio), ond rydyn ni’n gyfrifol am eich data bob amser.
Pan fyddwch yn ei roi i ni’n anuniongyrchol – gellid rhannu eich gwybodaeth â ni gan sefydliadau digwyddiadau annibynnol, er enghraifft Marathon Llundain neu safleoedd codi arian fel Just Giving. Bydd y trydydd parti annibynnol yn gwneud hynny dim ond pan fyddwch wedi dynodi eich bod yn dymuno cefnogi Awyr Las a chydag eich cydsyniad. Dylech archwilio eu polisïau preifatrwydd pan fyddwch yn darparu eich gwybodaeth i ddeall sut fyddan nhw’n prosesu eich data.
Pan fyddwch yn rhoi caniatâd i sefydliadau eraill ei rhannu – yn dibynnu ar eich gosodiad neu’r polisïau preifatrwydd ar gyfer cyfryngau cymdeithasol ac apps negeseuon fel Facebook a Twitter, fe allech roi caniatâd i ni gael mynediad at wybodaeth o’r cyfrifon neu’r gwasanaethau hynny. Gallech hefyd ddarparu caniatâd i sefydliadau trydydd parti rannu eich data â ni.
Byddwn yn cyfuno gwybodaeth o’r ffynonellau hyn â honno y byddwch chi’n ei darparu i ni’n uniongyrchol. Byddwn hefyd yn defnyddio’r wybodaeth hon i gael gwell dealltwriaeth o’n cefnogwyr er mwy gwella ein dulliau codi aria, ein cynhyrchion a’n gwasanaethau.
Cywirdeb eich data a’i gadw’n gyfamserol
Gofynnwn i chi roi gwybod i ni, os gwelwch yn dda, pan fyddwch yn symud tŷ neu’n newid eich manylion cyswllt, yna fe allwn gadw ein cofnodion yn gyfamserol. Os bydd post (yn y post neu’n electronig) sydd wedi’i gyfeirio atoch chi’n cael ei ddychwelyd atom ni’n dweud eich bod ‘wedi symud’ (neu rywbeth tebyg) yna fe allem ddefnyddio ffynonellau sydd ar gael yn gyhoeddus, fel cronfa ddata Newid Cyfeiriad y Swyddfa Bost, i ail-wirio a diweddaru eich manylion.
Tra byddwn yn ymdrechu i sicrhau bod y wybodaeth y byddwn yn ei dal amdanoch chi’n fanwl gywir a, lle bo’r angen, yn cael ei chadw’n ddiweddar, fe wnawn dybio, yn absenoldeb tystiolaeth i’r gwrthwyneb, bod y wybodaeth y byddwch yn ein darparu â hi, yn fanwl gywir. Pe byddai yna unrhyw anghywirdeb yn y wybodaeth y byddwch yn ein hysbysu ohoni, neu y byddwn yn dod yn ymwybodol ohoni, fe gaiff ei chywiro gennym ni’n ddiymdroi.
Marchnata uniongyrchol
Fe wnawn gysylltu â chi, o bryd i’w gilydd, i’ch cadw’n ddiweddar â newyddion, apeliadau, digwyddiadau, cyfleoedd gwirfoddoli Awyr Las a’r GIG a’r ffordd y bydd cefnogwyr fel chi’n gloywi bywydau ac yn helpu i newid bywydau cleifion. Fe’ch gwahoddwn i ddweud wrthon ni sut yr hoffech i ni gyfathrebu, mewn ffyrdd sy’n eich siwtio chi. Fe wnawn hefyd gynnwys gwybodaeth ar y ffordd i optio allan o farchnata yn y dyfodol. Os nad ydych am glywed gennym ni, yna rydyn ni’n deall. Cysylltwch â ni yn awyrlas@wales.nhs.uk neu ffoniwch 01248 384395.
Os byddwn yn cynnal digwyddiad mewn partneriaeth â sefydliadau eraill a enwir yna mae’n bosib y byddai angen rhannu eich manylion. Fe fyddwn yn glir iawn ynglŷn â’r hyn fydd yn digwydd i’ch data pan fyddwch yn cofrestru.
Data cleifion
Nid oes gennym ni hawl i weld data cleifion.
Gallai Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) gysylltu â ‘chleifion y gorffennol’ ar ein rhan, gan ofyn a hoffan nhw glywed mwy gan ein Helusen GIG, Awyr Las. Ni fyddwn ar unrhyw adeg yn gweld data cleifion. Byddem yn cysylltu â chleifion yn uniongyrchol dim ond os byddan nhw’n ‘optio i mewn’ o’r post hwn. Ni fyddid yn dargyfeirio cronfeydd o ofal cleifion ar gyfer hynny.
Data plant
Os ydych chi’n 16 oed neu’n iau, mynnwch ganiatâd eich rhiant/gwarcheidwad cyn rhoi eich manylion personol i ni.
3. Data digidol
Gwefan
Os gwnewch chi ddim ar wahân i ddarllen tudalennau neu lawrlwytho gwybodaeth wrth ddefnyddio’r wefan hon, fe wnawn ni gipio a storio gwybodaeth ynglŷn â’ch ymweliad. Ni fyddwn yn gallu eich adnabod chi oddi wrth hyn; mae’n ymwneud ag (i) parth y Rhyngrwyd a chyfeiriad IP y byddwch yn cael mynediad at y wefan ohono (ii) y math o borwr a system weithredu rydych chi’n eu defnyddio (iii) dyddiad ac amser eich ymweliad, (iv) y tudalennau y byddwch yn ymweld â nhw, a (v) cyfeiriad y wefan y gwnaethoch chi gysylltu â ni ohoni (os yn gymwys).
Byddwn yn casglu’r wybodaeth ddienw hon i wneud pob ymweliad yn fwy gwerth chwil, ac i’n darparu â gwybodaeth i helpu i wella ein gwasanaeth.
Y ffordd y byddwn yn defnyddio ‘cwcis’
Fel y rhan fwyaf o wefannau, byddwn yn defnyddio ‘cwcis’ i helpu i wneud ein safle, a’r ffordd y byddwn yn ei ddefnyddio, yn well. Golyga cwcis y bydd gwefan yn eich cofio chi. Ffeiliau testun bychan ydyn nhw a bydd safleoedd yn eu trosglwyddo i’ch cyfrifiadur (neu ffôn neu dabled). Maen nhw’n gwneud rhyngweithio â gwefan yn gyflymach ac yn haws. Byddwn hefyd yn casglu’r wybodaeth hon fel y gallwn weld pa fath o ddyfais a system weithredu rydych yn eu defnyddio i gael mynediad at ein gwefan. Bydd hyn yn ein helpu i optimeiddio eich gwefan ar gyfer y dyfeisiadau a ddefnyddir amlaf.
Mae cwcis a gesglir yn cynnwys:
Diogelu eich cyfrineiriau
Lle byddwn ni wedi rhoi (neu chi wedi dewis) cyfrinair sy’n eich galluogi i gael mynediad at rannau arbennig o’n safle, rydych chi’n gyfrifol am gadw’r cyfrinair yn gyfrinachol. Rydych yn cytuno i beidio â rhannu’r cyfrinair hwnnw ag unrhyw un arall.
Gwefannau eraill
Mae gwefan Awyr Las yn cynnwys dolenni i wefannau eraill sy’n perthyn i drydydd parti, ac nid oes gennym ni unrhyw gyfrifoldeb amdanyn nhw. Dydyn ni ddim yn rheoli arferion preifatrwydd y safleoedd eraill hyn. Dylech felly ofalu, pan fyddwch yn gadael ein safle, eich bod wedi darllen polisi preifatrwydd y safle.
Telerau defnyddio e-byst
Fydd e-byst ddim yn ddiogel bob amser felly cofiwch hynny pan fyddwch yn cysylltu.
Mae’r wybodaeth mewn e-byst yn gyfrinachol, felly os ydych wedi derbyn un drwy gamgymeriad, dilëwch o heb gopïo, defnyddio na dweud wrth neb am ei gynnwys.
Rhoddion testun
4. Ynglŷn â’r datganiad preifatrwydd hwn
Gallem addasu, ychwanegu neu ddileu adrannau o’r datganiad preifatrwydd hwn o bryd i’w gilydd. Gwiriwch y dudalen hon o bob yn hyn a hyn i ddal i fod yn ddiweddar o ran Datganiad Preifatrwydd Awyr Las.
Optio allan o gyfathrebiadau Awyr Las
Os nad ydych am dderbyn cyfathrebiadau yn y dyfodol gan eich Elusen GIG, Awyr Las, cysylltwch â ni:
Tîm Cymorth Awyr Las
Ysbyty Gwynedd, Penrhosgarnedd, Bangor, LL57 2PW
E-bost: awyrlas@wales.nhs.uk
Ffôn: 01248 384395
Hawliau mynediad
Mae gennych hawl i gael mynediad at y data personol rydyn ni’n ei ddal amdanoch chi. Os hoffech gael copi o’r wybodaeth hon, ysgrifennwch atom ni neu e-bostiwch ni yn y cyfeiriadau a roddir isod, gan amgáu eich manylion post:
Tîm Cymorth Awyr Las
Ysbyty Gwynedd, Penrhosgarnedd, Bangor, LL57 2PW
E-bost: awyrlas@wales.nhs.uk
Ffôn: 01248 384395
Ymholiadau preifatrwydd
Os bydd gennych unrhyw gwestiynau ynglŷn â’r datganiad hwn, neu os byddwch yn dymuno diweddaru eich manylion neu ddileu eich data personol oddi ar ein cofnodion, cysylltwch â ni yn y cyfeiriad uchod neu gallwch gysylltu â Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth ar https://ico.org.uk/