Gallwch ganfod popeth rydych angen ei wybod am y prosiect yma!
Mae Cadwch Curiadau yn gronfa ymroddgar o fewn Awyr Las: elusen GIG yng Ngogledd Cymru. Mae cyfraniadau a wneir i’r elusen yn helpu ariannu adnoddau, cyfleusterau, hyfforddiant ac ymchwil ychwanegol, yn ogystal â phrosiectau arbennig sy’n effeithio cleifion, eu teuluoedd ac aelodau o staff.
Rwy’n falch o gefnogi’r Gân CPR a’r pecyn adnoddau addysgu rhyngweithiol. Bydd y pecyn dwyieithog hwn yn cyflwyno’r adnoddau y bydd yr ysgolion cynradd eu hangen er mwyn cwrdd â gofynion y modiwl sgiliau achub bywyd a chymorth cyntaf newydd o fewn y cwricwlwm o fis Medi. Mae’n canolbwyntio ar sgiliau CPR sylfaenol mewn ffordd ddeniadol fel bod plant yn dod yn ymwybodol eu bod yn gallu helpu person sydd wedi llewygu, wedi rhoi gorau i anadlu neu sydd ddim yn anadlu’n iawn. Mae ataliad y galon yn sefyllfa argyfwng, sy’n gallu digwydd i unrhyw berson o bob oed, ac mae’r adnodd hwn yn gymorth wrth roi hyder i genedlaethau’r dyfodol i ymyrryd a helpu achub bywydau.
Dr Len Nokes, Athro Emeritws a Chadeirydd Achub Bywyd Cymru
Gwybodaeth am y Gân CPR
Datblygwyd y Gân CPR gyda chefnogaeth athrawon a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol ac mae’n targedu plant Cyfnod Allweddol Un a Chyfnod Allweddol Dau. Mae’r gân yn cael ei chefnogi gan gynllun gwers a llyfr gwaith ac yn ddelfrydol ar gyfer ysgolion cynradd ledled y wlad. Bydd plant yn gallu ymarfer y Gân CPR yn yr ystafell ddosbarth, yn y cartref neu fel gweithgaredd addysgol. Pa bynnag modd y byddwch yn dewis dysgu’r Gân CPR, mae’n ffordd hawdd a hwyliog o gyflwyno’r sgil CPR – sgil sy’n achub bywydau.
Yng Nghymru ceir rhai o’r graddfeydd goroesi isaf o fewn y DU ar gyfer pobl sy’n dioddef ataliad y galon y tu allan i’r ysbyty. Mae sawl astudiaeth yn dangos yr effaith gadarnhaol mae CPR a diffibriliad cynnar yn gallu eu cael ar rywun sydd eu hangen. Mae dysgu camau CPR trwy gân a dawns yn ffordd wych o gyflwyno’r sgil achub bywyd hwn i blant ifanc.
Benjamin Savage, Prif Swyddog Gweithredu, Ambiwlans Sant Ioan yng Nghymru
Beth ydy ataliad y galon?
Ataliad y galon yw pan fydd y galon yn rhoi’r gorau i bwmpio gwaed o gwmpas y corff. Mae’r siawns o oroesi ataliad yn dyblu wrth ddefnyddio diffibriliwr cyn i ambiwlans gyrraedd. Mae Cadwch Curiadau, a gefnogir gan Achub Bywyd Cymru, eisiau i bawb yng Nghymru ddeall sut i wneud CPR sylfaenol a sut i ddefnyddio diffibriliwr. Dyna’r unig ffordd o ailgychwyn curiad naturiol y galon a helpu achub bywydau. Mae croeso i chi ddefnyddio’r adnoddau ar y dudalen hon gan hyfforddi cenedl o achubwyr bywydau!
Pan fydd person yn dioddef ataliad y galon, mae cymryd y camau cywir yn gallu golygu’r gwahaniaeth rhwng bywyd a marwolaeth. Mae’r adnoddau newydd hyn ar gyfer ysgolion cynradd yn cyflwyno ffordd ardderchog o ddysgu sgiliau achub bywyd i blant. Diolch i bawb sydd wedi cynorthwyo er mwyn cynhyrchu fideo mor gofiadwy a hygyrch am CPR.
Adam Fletcher, Pennaeth Rhaglenni Iechyd Cymunedol, Sefydliad Prydeinig y Galon (British Heart Foundation)