Croeso i’r Gân CPR!
Cefnogir y Gân CPR gyda chynllun gwers a llyfr gwaith er mwyn helpu dysgu plant ysgolion cynradd am adfywio cardio-pwlmonaidd (CPR), sgil a allai achub bywyd.
Mae’r gân wedi cael ei datblygu yng Nghymru gyda Jess a’r Elvis Cymraeg. Gallwch lawrlwytho’r holl adnoddau y byddwch eu hangen ar y wefan hon – rydym yn gobeithio y byddwch yn mwynhau dysgu CPR wrth ganu!
Mae plant yn caru canu a dawnsio felly doedd dim ffordd well na chreu cân er mwyn helpu plant i ddysgu CPR! Datblygwyd y Gân CPR yn unol â chanllawiau COVID cyfredol Resuscitation Council UK a bydd yn cael ei diweddaru wrth i’r canllawiau newid.
Mae’r holl adnoddau ar gael i’w lawrlwytho am ddim ar y wefan hon.
Mae cynllun gwers y Gân CPR yn rhoi cyfarwyddiadau clir ar sut i gyflwyno’r sesiwn CPR, ac yn cael ei gefnogi gyda llyfr gwaith ar ffurf comig.
Rwy eisiau gwybod rhagor!Bob blwyddyn, mae oddeutu 6,000 o bobl yn dioddef ataliad y galon yng Nghymru. Mae tystiolaeth yn dangos y gallwn wella cyfradd goroesi’r rhai sy’n dioddef ataliad y galon wrth adnabod yr arwyddion yn gynnar, galw am gymorth, gwneud CPR cyn gynted â phosib, a defnyddio diffibriliwr yn gyflym. Dyma pam y dylai mwy o bobl ddysgu CPR. Wrth beidio ymateb yn gyflym gallwn golli bywydau. Mae unrhyw fath o CPR yn well na dim CPR o gwbl.