Dysgwch y Gân CPR yn eich ysgol!

Mae athrawon a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol wedi datblygu’r Gân CPR ar y cyd. Mae’r holl adnoddau sydd wedi’u creu ar sail ymchwil yn dilyn canllawiau COVID cyfredol Resuscitation Council UK. Mae’r cynllun gwers CPR yn rhoi cyfarwyddiadau clir ar sut i gyflwyno’r sesiwn CPR ac yn cyd-fynd â’r llyfr gwaith ar ffurf comig. Mae’r holl adnoddau ar gael ar y wefan hon ac AM DDIM i’w lawrlwytho.

Yn y Groes Goch Brydeinig rydym yn annog cynifer o bobl ag sy’n bosib i ddysgu sgiliau achub bywyd sy’n eu galluogi i gynnig help llaw i rywun mewn argyfwng. Mae’r Gân CPR yn annog pobl i weithredu ond ar yr un pryd yn ysgogi pobl mewn ffordd hwyliog sydd gobeithio yn eu caniatáu i adalw gwybodaeth a gweithredu pan fyddant yn ymdrin ag argyfwng cymorth cyntaf.

Dafydd Beech, Rheolwr Addysg Gymunedol Genedlaethol, Y Groes Goch Brydeinig

Rydym yn gobeithio y byddwch yn mwynhau defnyddio’r adnodd addysgol hwn sy’n achub bywydau. Byddem wrth ein boddau’n clywed eich adborth

Mae SADS UK yn falch o gefnogi’r gân CPR gyda Elvis Cymraeg a Jess. Dyma ffordd wych i ennyn diddordeb plant (ac oedolion!) i ddysgu sut i gywasgu’r frest a sut i achub bywyd. Fel mae’r gân yn dweud, ‘Cadw’r Curiad’, h.y., cadw cywasgu’r frest tan i’r diffibriliwr gyrraedd. Cywasgu ar y frest a defnyddio’r diffibriliwr yw’r ffordd fwyaf effeithiol o achub bywyd pan mae person yn cael ataliad y galon. Bydd dysgu CPR mewn ysgolion yn gwneud disgyblion yn fwy hyderus i ddefnyddio’r sgil achub bywyd hwn os byddent yn digwydd bod yn dyst i, neu yn cael eu galw i helpu argyfwng ataliad y galon.

Anne a John Jolly, Elusen Cardiaidd SADs UK

Mae’r cynllun gwers hwn yn rhoi cyfarwyddiadau clir ar sut i gyflwyno’r sesiwn CPR sy’n awr o hyd, yn yr ystafell ddosbarth gan gynnwys gweithgareddau chwarae rôl, y Gân CPR, llyfr gwaith a gwaith cartref.
Mae ein taflenni chwarae rôl yn cyflwyno’r cysyniad o alw 999.
Mae’r Gân CPR yn dysgu plant y camau CPR ar ffurf cân a dawns.